




GWEDDI'R PERERIN
Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd.
Oherwydd wele, o hyn allan, fe'm gelwir yn
wynfydedig
gan yr holl genedlaethau.
Gwnaeth y hwn sydd nerthol bethau mawr i mi
A santaidd yw ei enw ef.
G Dyma gaethferch yr Arglwydd
A Bydded i mi yn ôl dy air di.
Gweddïwn.
Nefol Dad, dy fab Iesu a aned o Fair Forwyn drwy nerth yr Ysbryd yw goleuni'r Byd.
Bydded i'r un Ysbryd ein harwain i efelychu Mair yn ei f
fydd, ei chariad a'i gostyngeiddrwydd er mwyn inni ddilyn goleuni ei Mab yn y bywyd hwn a dyfod o'r diwedd
i'th weld di wyneb yn wyneb, a'th glodfori di yn nheyrnas dragwyddol nef.
AMEN.
Santaidd Fair, fam Duw,
yr wyt yn cynnig dy Fab inni i'w addoli.
Boed inni drysori
ei air yn ein calonnau
A dwyn ei oleunii'r byd.
Mair o Aberteifi, gweddïa dros Gymru.
Mair
o Aberteifi, gweddïa drosom ni.

Chi yw ymwelydd rhif
Ar hyn o bryd ceir
Ar lein
Croeso i wefan Eglwys Gatholig Mair y Tapr a Chysegrfa Genedlaethol Gymreig Mair. Diolch am eich diddordeb yn y Gysegrfa ac yn ein plwyf.
Rydym wedi ein lleoli ar arfordir prydferth Gorllewin Cymru, o fewn Esgobaeth Gatholig Menefia. Mae nifer o ymwelwyr yn dod yma, naill ai yn unigol neu fel rhan o bererindodau sydd wedi’u trefnu, i dreulio amser mewn defosiwn i Ein Mam Fendithiol ac i fwynhau prydferthwch yr ardal.
Ar ein gwefan, gallwch edrych ar amseroedd Offerennau, gwasanaethau, pererindodau a digwyddiadau arbennig, gweld lluniau o’r plwyf a’r Gysegrfa a darllen am y lle addoli hanesyddol hwn.

Mae rhai o'n tudalennau angen mynediad i Adobe Reader am ddogfennau pdf Java ar gyfer animeiddiadau. Cliciwch ar y dolenni i gael y feddalwedd