Hanes Y Gysegrfa Mair O Aberteifi
Darllenwch am hanes cyfan y Gysegrfa wrth ddewis un o’r dolenni ar y dudalen hon.
Stori Mair o Aberteifi. Hanes Y Gysegrfan.

 Gallwch olrhain hanes Mair o Aberteifi yn ôl i’r Canol Oesoedd yn yr erthygl gynhwysfawr hon.
Darllenwch am chwedl y cerflun cyntaf un   a sut y mae defosiwn i Fair y Tapr yn arhau hyd heddiw.
Yr oedd yn y canol oesoedd bererindod nodedig er anrhydedd Mair o Aberteifi. Dywed chwedl hyfryd fod cerflun o'r Forwyn Fair wedi ei ddarganfod ar lan afon Teifi, "and her sonne upon her lappe, and the taper bernynge in her hande". Aed ag ef i eglwys y plwyf ond nid arhosai yno, a dychwelai deirgwaith neu bedair i'r "place where now is buylded the church of our Lady", sef eglwys bresennol y Santes Fair. Byddai offeiriad siantri yn canu'r Offeren yn ddyddiol er anrhydedd y Forwyn Fair ar gyfer y pererinion a ddeuai i weddïo a gadael rhoddion. Byddent yn lletya gyda Marchogion Ysbytwyr Sant Ioan lle saif Gwesty'r Angel heddiw.
CONTACTCYM Hanes y Gysegrfa    . Cefnogwch ni    . Mair. Cysylltu. Hafan.