LLE MAIR YNG NGHYNLLUN DUW
Mae Duw ein Tad yn rhoi i ni bopeth trwy ei Fab, Iesu. "Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo beidio a mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol". Iesu Grist yw yr unig gyfryngwr rhwng Duw a dyn. Daw pob rhodd a dderbyniwn gan y Tad trwyddo ef yn unig.
Moliannwn unig-anedig Fab y Tad am iddo gymryd cnawd o'r Fendigaid Forwyn Fair i fod yn Waredwr ac yn Fara'r Bywyd i ni.
Trwy rym ei Groes a'i atgyfodiad mae'r Iesu yn tywallt arnom yr Ysbryd Glan ac yn ein gwneud yn un corff, sef Corff Cyfrin Crist y mae ef yn ben arno a ninnau'n aelodau ohono. O'r aelodau hynny y pennaf yw'r Fendigaid Fair Forwyn. Amlygodd Duw ei ogoniant ynddi hi. "Fy enaid sy'n mawrhau yr Arglwydd", meddai hi.
Ym Mair fe ganfyddwn yn ei lawnder y grym yr achubwyd ni oll trwyddo. Anrhydeddwn ei ffydd, ei gwyleidd-dra, ei phurdeb a'i chariad, a moliannwn Duw
Arwyddocâd symbolaidd y ddelw yw bod Mair yn cyflwyno i ni ei Mab i'w addoli, fel y gwnaeth i'r Doethion. Tystia'r tapyr mai ef yw Goleuni'r Byd. Byddwn yn croesawu pererinion sy'n dod i weddïo. Bydded iddynt ddysgu trysori gair Duw yn eu calonnau, fel y gwnaeth Mair, a byw yng ngoleuni ei Mab, sy'n Waredwr iddi hi ac i ninnau.